Gyda´r holl wybodaeth hyn, ´ro´n i bach yn nerfus ar ol penderfynu marchogaeth beic mynydd lawr holl hyd ´Death Road´. Ond mae rhaid chi wneud y pethe hyn, ond oes e? Ar ol yr hanner awr cynta, do´n i ddim yn siwr pam ´roedden i wedi cachu pants ... ´Ry chi´n gallu gweld arwyddion o bobl arall oedd heb fod mor lwcus yr holl ffordd lawr- mae croesau a blodau di-rhi ar ochr yr hewl. Yn ol y boi oedd yn rhedeg y trip, mae wyth beiciwr wedi marw yn y pum mlynedd ddiwetha. ...